Rhagarweiniad
gan Peter Westgarth, Prif Weithredwr
Dros y blynyddoedd rydym
wedi derbyn adborth rheolaidd sy’n dweud wrthym fod cymryd rhan yn y rhaglen Gwobr
Dug Caeredin yn datblygu sgiliau, ffitrwydd, ysbryd anturus ac atebolrwydd cymdeithasol.
Felly, nid oes angen ein hargyhoeddi ni sy’n ymwneud â’r Wobr o’i gwerth.
Fodd bynnag, ni allwn ni
ddisgwyl i rai sydd heb gyswllt dderbyn ein gair.
Mae angen inni ddarganfod yr union fuddiannau, yr hyn sy’n dda yn y rhaglen,
a’r hyn y gellid ei wella. Yna fe allwn
ni adeiladu ar sail y wybodaeth hon i wneud y Wobr yn fwy llwyddiannus byth.
Felly, mae’n
wir dda gen i gyhoeddi ein bod wedi comisiynu gwerthusiad o Wobr Dug Caeredin. Ariennir y gwerthusiad hwn gan Sefydliad
Pears ac fe’i cynhelir gan y Ganolfan Plant ac Ieuenctid ym Mhrifysgol Northampton.
Bydd sawl agwedd
ar y gwaith hwn. Bydd yr ymchwilwyr
yn edrych yn fanwl ar brofiadau pobl ifanc wrth iddynt gymryd rhan yn y Wobr. Bydd
pawb sy’n arwain y Wobr yn derbyn arolwg yn holi pam maent yn credu bod y Wobr yn
gweithio. Byddwn yn ystyried hefyd effeithiau gwneud y Wobr yn y tymor hir trwy
gyfweld cyfranogwyr yn ystod yr 50 mlynedd ddiwethaf. A hefyd, bydd cyfres o arolygon
ar-lein yn dangos sut mae sgiliau, profiadau, disgwyliadau a dyheadau'r rhai sy’n
cymryd rhan yn y Cynllun ar hyn o bryd yn newid dros gyfnod o flwyddyn.
Mae’r arolwg cyntaf ynghlwm.
Gofynnwn ichi ei lenwi mewn ffordd mor onest â phosibl.
Bydd pob barn yn gwneud gwahaniaeth. Ac, fel cymhelliad, rydym wedi cynnwys
cyfle i ennill Apple Ipod Touch.
Pob hwyl ar eich Gwobr,
a diolch yn fawr ichi am eich help.